CROESO
Croeso i wefan cyngor ein cymuned. Mae dalgylch y Cyngor yn ymestyn o Gaerdeon a phentref Bontddu, heibio i Gwm Mynach a Thai Cynhaeaf, a Llanelltyd hyd at Faes Mawr. Gorwedd yr ardal hon ar hyd lan ogleddol Afon Mawddach yn yr hen Sir Feirionnydd. Ceir yma ymdeimlad cryf o hanes ar hyd y canrifoedd; o olion Oes y Cerrig i Abaty Cymer a Gwaith Aur y Clogau. Gwelir harddwch ar bob llaw; o aber y Fawddach i gopa'r Diffwys a'r Rhinogau, ac, wrth gwrs, ysblander Cader Idris dros yr afon tua'r de.
Yn y tudalennau hyn cewch drosolwg o’r hyn mae’r cyngor yn ei wneud ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol am yr ardal.